P-04-419
: Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt
Geiriad y
ddeiseb
Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru am
foratoriwm ar ddatblygu ffermydd gwynt a thyrbinau gwynt y mae
ganddi gyfrifoldeb datganoledig drostynt. Bydd y moratoriwm
yn gyfnod o fyfyrio, a bydd pwyllgor trawsbleidiol yn cael ei
gynnull yn yr amser hwn i archwilio effeithiau gweithredu tyrbinau
gwynt ar iechyd, lles cymdeithasol, gwerth adeiladau, twristiaeth,
a’r economi leol, o fewn 15 kilometr i’r safleoedd
hyn.
Gofynnwn i’r pwyllgor trawsbleidiol gael caniatâd i
gomisiynu gwaith ymchwil annibynnol ar faterion datganoledig
iechyd, lles cymdeithasol a thwristiaeth mewn perthynas â
thyrbinau gwynt, ac i gytuno ar gyfres o safonau ar gyfer ynni
gwynt datganoledig, a fydd yn blaenoriaethu gofalu am yr amgylchedd
lleol, tir amwynderau, cynefinoedd a natur.
Gofynnwn hefyd i bob safle tyrbin gwynt ddatganoledig orfod cael
cymeradwyaeth mewn refferendwm lleol (o fewn 5
kilometr).
Nid yw’r ddeiseb hon yn ymwneud ag ynni gwynt a reolir gan
Gyfarwyddiaeth y Seilwaith Cenedlaethol.
Prif
ddeisebydd: James
Shepherd Foster
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 2
Hydref 2012
Nifer y
llofnodion:1332